Annibynwyr Title
 
 
 
 

Amdanom Ni

Mae dros 450 o eglwysi Annibynnol yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, y rhan fwyaf ohonynt o ddigon yn byw eu bywyd drwy’r iaith Gymraeg.

Mae 16 o Gyfundebau, gan gynnwys Lerpwl a Llundain.

Sefydlwyd yr eglwys Annibynnol gyntaf yng Nghymru yn Llanfaches yn 1639 yn y traddodiad Piwritanaidd.

Yn ogystal â chyhoeddi'r Efengyl a thystio i fawredd a gogoniant Iesu Grist o ddyddiad ei sefydlu yn 1872, mae’r Undeb wedi mynegi safbwyntiau radical yn gyson ar bob math o faterion ysbrydol, moesol, cymdeithasol, Cymreig a rhyngwladol. Er enghraifft, yng nghyd-destun y ddau ddosbarth olaf, pasiwyd penderfyniadau pasiffistaidd lawer tro, ac mor gynnar â 1950 galwyd am Senedd i Gymru.

_________________________

I weld dyddiadau amrywiol gyfarfodydd, cliciwch yma.

syrffiwr

  (Llun: Alun Lenny)   

DiB strap

Newyddion
News
15/08/2008
Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro
13/08/2008
Powlenni Apêl De Affrica
10/08/2008
Eisteddfod Caerdydd Dydd Sadwrn Olaf
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk