
Bwrlwm yr ifanc yn Aberystwyth
22/05/2006Braf oedd gweld llawr capel Seion ar y bore Sul hwnnw yn llawn, a chymaint o blant ac ieuenctid y cylch wedi dod at ei gilydd i arwain y mawl. Thema’r oedfa oedd Cyfri dy fendithion, cofia gariad Duw (sef cwpled allan o gân i blant yn y llyfr newydd, Caneuon i Bob Ysgol). Cymerwyd rhan gan aelodau ysgolion Sul Bethel, Talybont; Noddfa a’r Garn, Bow Street; Horeb Penrhyn-coch; Bethel, Aberystwyth, yn ogystal â Seion, Stryd y Popty. Cafwyd darlleniadau, gweddïau, deuawd cerdd dant, meim yn seiliedig ar stori’r Samariad Trugarog a sgets ar ostyngeiddrwydd ac ar y Wir Winwydden. Cafwyd hefyd neges gan y Parchg


