Annibynwyr Title
 
 
 
 
Cofio "Cymro Mwyaf America."

Cofio "Cymro Mwyaf America."

17/04/2008

Roedd Robert Everett (1791-1875) yn un o weinidogion mwyaf yr Annibynwyr : yn gawr yng Nghymru ac America.    Yn enedigol o'r Gronant, Sir Fflint, cafodd ei sefydlu'n weinidog Lôn Swan, Dinbych yn 1815. Bu'n weinidog yno am bron i wyth mlynedd. A nodi hynny wna'r gofeb ar fur y capel, a gafodd ei dadorchuddio heddiw gan Faer Dinbych, y Cyng.Colin Hughes.  plac dinbych[Y Parchedig Graham Ffloyd, gweinidog Lôn Swan (chwith) gyda maer tre Dinbych, y Cynghorydd Colin Hughes.]

llyfr hunterYn 1823 ymfudodd Robert Everett i America i ofalu am eglwys Gymraeg Utica. Yn 1840 cychwynnodd y cylchgrawn Y Cenhadwr Americanaidd, gan ei olygu a'u gyhoeddi ar ei wasg ei hun. Ymdrechodd i greu a chynnal traddodiad llenyddol Cymraeg yn yr Unol Daleithiau, a brwydrodd dros ddirwest a hawliau merched. Ond yn bennaf oll efallai, mae'n cael ei gofio am ei ymgyrch ddi-baid yn erbyn caethwasanaeth. Ceir ei hanes yn llyfr Jerry Hunter: I Ddeffro Ysbryd y Wlad : Robert Everett a'r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd. (Gwasg Carreg Gwalch, 2007 £9.95) Erbyn ei farw yn 1875, meddai Hunter, roedd llawer o bobl o'r farn taw Robert Everett oedd "Cymro enwocaf America". Braf gweld anrhydeddu'r proffwyd yma yn y dre lle bu'n llanw'r pulpud tra'n weinidog yn ei wlad ei hun. [Diolch yn fawr i'r Parchg Euros Wyn Jones am y llun o'r seremoni dadorchuddio.]

Newyddion
News
15/08/2008
Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro
13/08/2008
Powlenni Apêl De Affrica
10/08/2008
Eisteddfod Caerdydd Dydd Sadwrn Olaf
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk