
Swyddog yr Ifanc yng Ngorllewin Morgannwg
04/05/2008'Doedd ryfedd fod pawb yn wên o glust i glust yng Nghwrdd Chwarter Gorllewin Morgannwg yng nghapel Pant-têg, Ystalyfera, ar Fai 1af! Yno, cafodd Siân Rumbelow ei chyflwyno i'r gynulleidfa fel Swyddog Ieuenctid a Phlant y Cyfundeb. Bydd yn gweithio'n rhan-amser gydag eglwysi ac ysgolion lleol.
(Llywydd yr Undeb, Y Parchg Dewi Myrddin Hughes, a fu'n anerch y cyfarfod, Siân Rumbelow a'r Parchg Brenig Davies,Cadeirydd Cyfundeb Gorllewin Morgannwg.)
Y Parchg Gareth Morgan Jones, fel Cadeirydd Pwyllgor Penodi Pwyllgor Gwaith y Cyfundeb, gafodd y gwaith pleserus o gyflwyno Siân i’r gynulleidfa. Mae Siân, sy'n 23 oed ac yn dod o Dregŵyr, yn aelod o eglwys Sant Ioan Tregŵyr, ac wedi cael cryn brofiad o weithio ymhlith ieuenctid yr eglwys. Yn gyn-ddisgybl Ysgol Login Fach, Ysgol Gyfun Gŵyr a Choleg Gorseinon, mae'n dilyn cwrs BA (Addysg) ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe ar hyn o bryd.
Diolchodd Gareth yn fawr iawn i Meic Williams, swyddog cyswllt AGAPE (ar y dde, gyda Siân), am ei waith caled yn sicrhau sefydlu'r swydd, a hefyd i John Williams, Trysorydd y Cyfundeb. Caiff y swydd newydd ei hariannu trwy gymorthdal o Raglen AGAPE ac arian o eglwys Waungron.
Diolch arbennig i Ann E. Davies, Ysgrifennydd y Cyfundeb, am y manylion a'r lluniau.

