
Yn Y TYST yr Wythnos Hon
15/05/2008'Y Proffwyd' gan ieuenctid capel Pisga, Llandysilio. Perfformiad cyntaf addasiad Caradog Williams o ran gyntaf "Elias" gan Mendelssohn, dan arweiniad Caradog Williams! "Pan fo cymaint o ddifrïo ar ieuenctid y dyddiau hyn, da yw cofio am y rhai sy’n haeddu eu canmol – myfyrwyr yn teithio adref o wahanol golegau i ymarfer a pharatoi ac yna i’r noson fawr – a phlant ysgol, er gwasgfa’r gwaith ysgol, yr un mor frwdfrydig!" meddai Hywel T. Jones yn ei adroddiad o noson gofiadwy.
Sefydlu'r Parchg R. Alun Evans. Roedd llawenydd mawr lond capel ym Methlehem, Gwaelod y Garth ar Ebrill 19eg, ar achlysur sefydlu y Parchedig Ddr R. Alun Evans yn Weinidog yno, ar y cyd â Bethel, Caerffili. Llywyddwyd y cwrdd yn ddeheuig gynnil gan y Parchg Eifion Powell, cyfaill i R. Alun Evans ers dyddiau coleg, ac un arall o’r gyfeillach honno, y Parchg Elwyn Jones o’r Talwrn, Sir Fôn a osododd yr her - trwy hanes Moses - i’r Gweinidog newydd ac aelodau Bethlehem.
Cofeb Robert Everett: Adroddiad a llun dadorchuddio cofeb i'r gwron yn Lôn Swan, Dinbych. [Adroddiad llawn ar y wefan hon: Cofio "Cymro Mwyaf America."]
Cwrdd Chwarter Ceredigion. Adroddiad cyflawn o'r Cyfundeb. Anerchwyd gan y Parchg Dewi Myrddin hughes, Llywydd yr Undeb. Pwysleisiodd bwysigrwydd y gwaith ymarferol y mae’r Undeb yn ei wneud ac sydd o fudd i’r aelodau.

