Annibynwyr Title
 
 
 
 
Lladd John Penri : Galw am Ymddiheuriad

Lladd John Penri : Galw am Ymddiheuriad

22/05/2008

Mae llawer yn ystyried mai John Penri, o ffermdy Cefn-brith ger Llangamarch, Powys oedd Annibynnwr cyntaf Cymru. delwedd john penri     Ar Fai 29, 1593, cafodd ei grogi yn Llundain fel bradwr - cyhuddiad a wadodd yn daer iawn. Roedd John Penri wedi cythruddo Eglwys Loegr trwy eu beirniadu am fethu pregethu'r efengyl i drwch pobl Cymru. Cafodd ei grogi ar sail cyhuddiad John Whitgift, Archesgob Caergaint. Roedd Penri yn 29 oed ac yn ddyn priod, gyda phedair o ferched bach.

Mewn Cwrdd Chwarter ddoe (Mai 15) yng nghapel Philadelphia, Nant-y-caws, cytunodd eglwysi Gorllewin Caerfyrddin y dylid anfon y cynnig isod i'w roi gerbon Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr yn Abertawe ym mis Gorffennaf :

"Yr ydym o'r farn bod merthyru John Penri oherwydd ei ddaliadau Cristnogol arbennig wedi bod yn gamwedd mawr. Nid yw Eglwys Loegr wedi dangos unrhyw arwydd o edifeirwch am weithred sy'n dal i fod yn anghyfiawnder gweithredol yn ein golwg ni. Yr ydym felly yn gwahodd yr Archesgob presennol, fel Cymro a gŵr cyfiawn a chydwybodol, i ymddiheuro ar ran yr Eglwys am y cam gafodd John Penri." ( Isod : Y Parchg J.Towyn Jones yn cyflwyno'r cynnig i'r Cwrdd Chwarter yn Philadelphia.)  jtj phila         Adroddiad Newyddion y BBC :

http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_7400000/newsid_

 

Newyddion
News
18/07/2008
Hanes y Llywydd Newydd
15/07/2008
Cannoedd yn y 'Sul Sbesial'
09/07/2008
Oedfa Cofio Cenhadwr China
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk