Annibynwyr Title
 
 
 
 
Pecyn Newydd : Yr Amgylchedd

Pecyn Newydd : Yr Amgylchedd

23/05/2008

Dyfodol y blaned yw testun drafod mawr yr oes hon - ymhlith Cristnogion, fel pawb arall. amgylchedd

"Mae’n ddyletswydd arnom fel eglwysi i drafod materion amgylcheddol yn ngoleuni Gair Duw," meddai’r Parchg Gareth Morgan Jones, Cadeirydd Adran Dinasyddiaeth Gristnogol yr Undeb, yn y cyflwyniad i’r Pecyn Amgylcheddol a anfonwyd i bob eglwys Annibynnol wythnos hon.

Dyma becyn awdurdodol, lliwgar a defnyddiol iawn. Llwyddir i gyplysu themâu ysgrythurol gyda gwyddoniaeth ac arferion amgylcheddol cyfiawn. Cyflwynir darnau perthnasol o’r Beibl ar gyfer gwasanaethau, ochr-yn-ochr â chyngor am sut i fynd ati i ail-gylchu popeth o ffonau symudol i sbectol a hen sgidiau.

Mae’r pecyn mewn pum rhan : Astudiaeth Feiblaidd ; Amlinelliad o Wasanaeth ; ‘Pa mor wyrdd yw eich eglwys ?’; Awgrymiadau i eglwysi ac ysgolion Sul ; ‘Beth wnaeth eich eglwys chi ?’eglwys werdd                          "Wrth brysuro tuag at ddiwedd degawd gyntaf yr unfed-ganrif-ar-hugain, daeth yn amlwg mai canrif dyngedfennol fydd hon ym mhatrwm ein byd a gwead ein hanes. Rhaid i ni yn weddigar a gweithgar wynebu rhai o’r cwstiynnau mawr a gyfyd o’n perthynas â byd gwyrdd Duw.Bellach, a’n systemau ecolegol yn cael eu dinistrio, byddai i  ni golli golwg ar bresenoldeb Duw mewn natur yn drychineb."

(Cyhoeddwyd ‘Pecyn Amgylchedd’ gan Adran Dinasyddiaeth Gristnogol Undeb yr Annibynwyr. Copïau ychwanegol : £3 o Dŷ John Penri.)

Newyddion
News
03/09/2010
Ymgyrch Genhadol yn Rhydaman
02/09/2010
Ymgyrch Hawliau Henoed yn Parhau
16/08/2010
Ail Flwyddyn Brysur Sian
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk