
Oedfa Cofio Cenhadwr China
09/07/2008Ganwyd Griffith John yn Abertawe yn 1831. Tra'n ddyn ifanc, roedd a'i fryd ar genhadu ym Madagascar, ond fe'i hanfonwyd i China. Ordeiniwyd ef yn Ebeneser, Abertawe yn 1855, a
chyrhaeddodd Griffith Shanghai yn ystod mis Medi y flwyddyn honno. Gwelodd Griffith John nad oedd gobaith cenhadu'n effeithiol heb ddysgu iaith y brodorion. A dyna wnaeth. Yn 1885 cyhoeddodd y Testament Newydd yn nhafodiaith Wen-li. Dathlodd 50 mlynedd fel cenhadwr yn 1905 yn Hankow. Yn 1912 daeth i Lundain, lle bu farw o fewn misoedd. Cafodd ei gladdu'n Y Sgeti, Abertawe. ( Caradog Evans fel y cenhadwr ac Eirlys Mages yn actio'i wraig Margaret John.)
Roedd hi'n beth braf i Annibynwyr led-led Cymru i gael clywed hanes Griffith John trwy gyfrwng y fath gyflwyniad dramatig a diddorol. Ond nid drama yn unig ydoedd. Plethwyd y golygfeydd gydag emynau a gweddïau, i roi naws oedfa o addoliad i'r noson yn y Tabernacl. Doedd neb ar frys i adael y capel a'r cyffiniau - gyda thyrfa yn aros tu fâs i sgwrsio â hwn a'r llall, heb boeni dim am lwydni a lleithder y nos.

