
Oedfa Cofio Cenhadwr China
09/07/2008Roedd Teg Oleuni yn oedfa i ddathlu bywyd a gwaith Griffith John, "cenhadwr China." Daeth cynulleidfa luosog ynghyd i weld perfformiad grymus gan Caradog Evans fel Griffith John a David Huw Williams fel y Griffith ifanc. Bu pymtheg o actorion yn cymryd rhan, tri llefarydd, côr o aelodau eglwysi'r cylch mewn gwisg Fictoraidd a chyfraniad lliwgar gan Ddawnswyr Bryntawe, a Huw Tregelles Williams wrth yr organ.
Yn y llun gwelir Caradog Evans fel Griffith John (yn eistedd o flaen y pulpud). Y tu ôl iddo mae'r llefarwyr - Rhidian Rees, Catty Irons a Philip Nicholls - gyda Huw Tregelles Williams, a'r côr gyda'u harweinydd Iris Thomas. Lluniwyd y sgript gan Robat Powell ac Ann Rosser, a chynhyrchwyd gan Wendy Ellis.

