
Cannoedd yn y 'Sul Sbesial'
15/07/2008Nôl yn y neuadd, cafodd yr oedolion eu hysbrydoli gan bregethu grymus y Parchg Ddr Geraint Tudur,
Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr. Siaradodd am yr Ymgnawdoliad, y Groes, yr Atgyfodiad a dyfodiad yr Ysbryd Glân. Mewn llai na hanner awr, fe ail-osododd sylfeini'r fydd i'r ffyddloniaid a'u herio i fynd nôl i'w heglwysi lleol gydag awydd newydd i gyhoeddi'r efengyl yn eu cymunedau. Ar ôl i'r plant a'r ieuenctid ail-ymuno â'r oedolion, cafwyd eitem wefreiddiol gan barti o ddynion ifanc y Cyfundeb, o dan
arweiniad Meinir Jones-Parry. Llywyddwyd yr oedfa wahanol a chofiadwy hon mewn arddull arbennig gan Yvonne Francis.
Yn ystod yr emyn olaf, cyrhaeddodd y fen hufen iâ , a buan y ffurfiwyd y ciw hiraf a welodd y dyn hufen iâ ers tro ! Tra roedd nifer yn mwynhau'r haul a sgwrs tu allan, manteisiodd eraill ar y cyfle i gael cwpaned a de a phicen-ar-y-mân yn y neuadd. Roedd tua ugain o eglwysi wedi cyfrannu tuag at arddangosfa fawr o waith y capeli unigol yng nghyntedd yr ysgol, a bu hynny, hefyd, yn dipyn o atyniad ar ddydd Sul a brofodd i fod yn 'sbesial' iawn mewn llawer ffordd i'r cannoedd a fu yno. Byddai'r hen Griffith Jones wrth ei fodd !

