
Cannoedd yn y 'Sul Sbesial'
15/07/2008Mewn ffydd a gobaith y bedyddiwyd Sul Cyfundeb gorllewin Caerfyrddin yn 'Sul Sbesial'. A felly y bu - o ran niferoedd, addoliad a mwynhad. Y neuadd fawr yn orlawn, a phawb o bob oed yn rhannu cyffro'r cwrdd cyntaf o'i fath erioed yn yr ardal.
Deg o bobol ifanc o gapeli cyfagos oedd yn gyfrifol am y rhannau rhagarweiniol. Yna, cafodd y llwyfan ei lenwi i'r ymylon gan barti mawr o blant yr ysgolion Sul yn canu dwy gan, a wedyn gan hanner cant o ieuenctid y Cyfundeb, i gyd o dan arweiniad Iwan Evans ac i gyfeiliant offerynnau trydan a drymiau. Ar ôl y canu, bu'r gynulleidfa'n gwylio fideo gan bobl ifanc Hermon, Cynwyl Elfed - sef fersiwn gyfoes o stori'r Mab Colledig (a enillodd Gwpan Denman Rhodd Cyfundeb Lerpwl, ddwy flynedd yn ôl).
Wedi mwynhau'r fideo'n fawr, aeth y plant i gampfa'r ysgol ar gyfer sesiwn o hwyl a gemau o dan ofal Nigel Davies ac athrawon yr ysgolion Sul. Mewn ystafell arall (uchod), cafodd y bobl ifanc gyfle i glywed profiad pedwar o ieuenctid o ogledd Cymru oedd wedi bod yn Sierra Leone, a'u holi am broblemau dyrys y wlad honno. Gyda nhw, roedd Jeff Williams a Branwen Nicholas o Gymorth Cristnogol. [llun gan Bryan Davies]

