
Hanes y Llywydd Newydd
18/07/2008Colli Mam a Symud i Chwilog
Bu farw fy mam yn sydyn iawn pan oeddwn yn wyth a hanner oed ac oherwydd gwaith fy nhad, anodd oedd magu ei ferch a bod ar gael yn y siop. Yn ddeg oed, daeth newid mawr i fy mywyd. Symudais i fyw i Chwilog at chwaer hynaf fy nhad a’i gwr. Rwy’n ddyledus iawn iddi am ei gofal ohonof ym mlynyddoedd sensitif fy arddegau. Mae tŷ ni y drws nesaf i’r Mans. Felly rydw i wedi cael cysylltiad agos â phob un o weinidogion Siloh a’u teuluoedd – Ioan W Gruffydd, Geraint S R Hughes, L G Roberts a’r annwyl R H Williams. Buont i gyd yn gefn mawr i mi ar adegau pryderus ac anodd yn fy mywyd a mawr yw fy ngwerthfawrogiad o hynny. (isod : Miss Margaret Jones yn arwyddo Beibl y Llywydd yng nghwmni'r cyn-lywydd,y Parchg Dewi Myrddin Hughes,yng nghapel Ebeneser, Dyfnant, Sadwrn Gorff 5)

