
Hanes y Llywydd Newydd
18/07/2008Ar hyd fy ngyrfa fel athrawes, cefais y fraint o gydweithio ag athrawon a phrifathrawon o’r un anian â mi, a fu’n ffrindiau triw iawn a gwerthfawrogaf eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch. Treuliais y tair blynedd gyntaf o’m gyrfa yn Sychdyn, ger Yr Wyddgrug. Gan fod criw o Gymry ifanc wedi cael swyddi dysgu yn Sir Fflint cychwynwyd aelwyd yr Urdd yn Yr Wyddgrug. Yna dychwelais i Wynedd i ddysgu i Abersoch. Cefais dri deg a thair o flynyddoedd o hapus yn yr ysgol fach bren yn ‘RAbar gyda’r hen blant. Hawdd oedd meithrin y syniad o deulu gyda phlant rhwng tair ac wyth oed.
Lledu Gorwelion. Digon anfoddog oeddwn i fynd yn gynrychiolydd i Gynhadledd Genhadol y Barri am y tro cyntaf ond daeth y gynhadledd hon yn gyfle i ledu fy ngorwelion a deall gwir ystyr y gair cenhadu. Cam naturiol o hyn oedd cael fy nghymell i ymuno yn hwyl Ysgol Haf yr Ysgol Sul ac yn ddiweddarach bûm yn drefnydd am gyfnod o 25 mlynedd hapus iawn. Tra’r oeddwn yn Gadeirydd Cyngor yr Undeb, cefais y fraint o fod yn gynrychiolydd yng Nghymanfa CWM yn Ayr. Roedd cyfarfod Cristnogion o ledled y byd yn gyfle i rannu profiadau a dysgu oddi wrth ein gilydd.
Gweld Tu Hwnt i'r Niwl . Mae’r llyfr Blaenau Ffestiniog yn gywaith o luniau o’r dref a’r ardal gan y ffotograffydd nodedig, Jeremy Moore, a geiriau’r bardd cenedlaethol o Stiniog, Gwyn Thomas. Dywed Jeremy Moore yn ei gyflwyniad nad oedd ar y dechrau’n gwybod lle i anelu’r camera, ond wrth chwilio’n ddyfnach roedd yn gweld rhyfeddodau Blaenau’n agor o’i flaen. Mae’n cael ei gyfareddu gan y lle ac yn gweld y cyfuniad o fyd natur a gwaith dyn ar y tirlun, wrth edrych ar fawredd y mynyddoedd o’i gwmpas.

