Annibynwyr Title
 
 
 
 
Hanes y Llywydd Newydd

Hanes y Llywydd Newydd

18/07/2008

Na, doedd dim swyn na harddwch i minnau chwaith pan awn yno’n ifanc. Ond rwyf erbyn hyn, fel Jeremy Moore, yn gweld tu hwnt i’r niwl a’r moelni i fawredd a chadernid y mynyddoedd sy’n amgylchynu’r dref. Teimlaf fod rhan annatod ohonof yn perthyn yno. Dyma’r graig y naddwyd fy nheulu ohoni a diolch i’n nheulu a’r bobl y deuthum yn agos atynt a’r profiadau a gefais yn ystod fy mywyd, rwy’n adnabod y wir Graig ym naddwyd ohoni.

Clywais ddweud gan un beth amser yn ôl, mai’r gwahaniaeth rhyngom ni Gristnogion yr unfed ganrif ar hugain a Christnogion yr Eglwys Fore, yw ein bod ni yn ‘Problem Conscious’ tra’r oeddynt hwythau yn ‘Power Conscious’. Rydan ni’n rhoi mwy o sylw i’r pethau sy’n ein rhwystro yn hytrach na rhoi mwy o sylw i’r hyn sydd o’n plaid.

Ac mae llawer o bethau o’n plaid – gweithwyr ffyddlon â thân yn eu calon dros Grist a’r Efengyl; adnoddau o bob math ar ein cyfer; rhaglenni megis Rhaglen AGAPE a’r Rhaglen Genhadol newydd i’n hysgogi yn ein gwaith – ac uwchlaw popeth, Duw ei hun. Ydi, mae Duw o’n plaid, a grym ei bresenoldeb a’i arweiniad Ef yn ein nerthu. Camwn ymlaen yn hyderus i’r dyfodol, yn ddiolchgar am y dylanwadau a fu arnom yn y gorffennol ac yn y sicrwydd y bydd i’r Duw a’n nerthodd ac a arweiniodd ein cyndadau, ein nerthu ni eto i weld ‘tu hwnt i’r niwl a’r moelni’ ac at ‘ddalennau o wyrddni’ yn ei genhadaeth Ef ar ein cyfer ni yn y ganrif newydd hon."

Mae copi llawn o anerchiad Margaret Jones are gael o Dŷ John Penri : Tu Hwn i'r Niwl a'r Moelni  (Pris £2) .

Newyddion
News
16/05/2013
Y Gymraeg a Christnogaeth
16/05/2013
Rhwydweithio Cymdeithasol
16/05/2013
Arfau i Fadagascar
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk