Annibynwyr Title
 
 
 
 
Hanes y Llywydd Newydd

Hanes y Llywydd Newydd

18/07/2008

"Fe’m ganwyd yn Llandrillo-yn-Rhos yn unig blentyn i David Price Jones ac Ellen May Jones. Groser oedd fy nhad, fu'n organydd yn Eglwys Salem, Bae Colwyn ac yna yn gwasanaethu fel organydd a chôr-feistr Eglwys y Plwyf Llandrillo-yn-Rhos am 40 mlynedd.

Pan yn blentyn arferwn fynd hefo fy nhad i weld Nain i Stiniog. Rhaid cyfaddef, doedd yr ymweliadau hynny â Stiniog ddim yn rhai difyr iawn - pam meddech chi? llywydd 2008Stiniog i mi oedd twnnel, niwl, glaw, llwydni, llechi, hen gloc mawr a phawb yn siarad mewn iaith ddieithr a Nain yn ei ffrog las tywyll a sbotiau gwyn yn cyfeirio ata i fel ‘Cariad’, nid Margaret. Doedd y ffaith fod Nain wedi magu saith o blant, wedi rhedeg busnes fel teilwres i hybu cyflog Taid yn y chwarel ddim yn golygu llawer i mi’r adeg honno. Ni chefais y fraint o adnabod Taid achos bu farw flwyddyn cyn fy ngeni. Ond clywais ddweud ei fod yn ddiacon uchel iawn ei barch yn Eglwys Jerusalem (A), ac iddo sefydlu dosbarth hyfforddi bechgyn hyn i gymryd rhan yn y cyfarfodydd gweddi. Deallaf mai ar ôl cael yr arweiniad hwn y penderfynodd y diweddar Barchedigion O M Lloyd a Gwynedd Jones fynd i’r weinidogaeth. Doedd Taid ddim am i un o’i feibion fynd i’r chwarel a balchder iddo oedd bod un mab wedi mynd i’r weinidogaeth gyda’r Annibynwyr, sef y Parchedig Cadvan Jones.

Newyddion
News
16/05/2013
Y Gymraeg a Christnogaeth
16/05/2013
Rhwydweithio Cymdeithasol
16/05/2013
Arfau i Fadagascar
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk