Annibynwyr Title
 
 
 
 
Eisteddfod Caerdydd Dydd Gwener

Eisteddfod Caerdydd Dydd Gwener

09/08/2008

darllen beibl  Heddiw y gwelwyd y darllenwr ieuengaf yn helpu gyda darllen y Beibl. Dan gyfarwyddyd ei fam, bu wrthi am gymaint o amser a llawer i oedolyn. Da iawn ef, a dalier ati!

john roberts bbc

Wedi cinio cafwyd sesiwn fywiog iawn o ‘Hawl i Holi’ gyda’r Parchg John Roberts o’r BBC (chwith) . Fel arfer, fe sy’n saethu’r cwestiynau ar y rhaglen Bwrw Golwg ar fore Sul ond y tro hwn, tro y gynulleidfa oedd hi!

Trist o beth oedd gweld ein Swyddog Cyfathrebu, Mr Alun Lenny (isod) yn ymladd gyda hufen ia ar y maes heddiw. Mae’n amlwg bod angen mwy o ymarfer arno, er mwyn iddo berffeithio’r grefft i’r un graddau a’r Dr Hefin Jones (gweler lluniau dydd Mawrth !)

hufen ia AL       [Bu'r Swyddog Cyfathrebu'n llawer rhy brysur drwy'r wythnos yn rhoi lluniau Dr Geraint Tudur ar y wefan hon i ymarfer dim arall.. AL

Newyddion
News
08/03/2010
Dewch i Greu Baner Feiblaidd !
02/03/2010
Cyfarfodydd Undeb 2010
01/03/2010
Dau Ddiwrnod i'r Gweinidogion
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk