Annibynwyr Title
 
 
 
 
Eisteddfod Caerdydd Dydd Sadwrn Olaf

Eisteddfod Caerdydd Dydd Sadwrn Olaf

10/08/2008  pabell  peiriant llwch

Wrth i’r diwrnod ddirwyn tua’i derfyn, rhaid oedd dechrau datgymalu’r babell a’i phacio am flwyddyn arall hyd nes y bydd ei hangen yn y Bala yn 2009 ! 

Gyda llaw, ni sugnodd y peiriant yr un llygedyn pellach o lwch er i amryw geisio mynd i’r afael ag ef yn ystod y dyddiau diwethaf ! Trodd yr offeryn yn degan, gan ei fod yn methu cyflawni ei iawn ddiben. 

Diolch i bawb a alwodd ym Mhabell yr Eglwysi yn ystod yr wythnos. Diolch am eich hynawsedd a'ch geiriau caredig. torf pabell  Bu aelodau a chynrychiolwyr o eglwysi Cymru’n cydweithio’n hapus ar hyd yr wythnos ; cofiwch fod yr hyn oedd yn bosibl ar faes yr Eisteddfod yn bosibl yn eich hardal chwithau.

Rhaid diolch i bawb am eu gwaith, ond i Rhian Linecar, Cytûn, yn arbennig, am drefnu’r babell.

Boed bendith Duw arnoch i gyd yn ystod y flwyddyn o weithgarwch sy’n ein wynebu cyn y byddwn yn cyfarfod eto yn y Bala, a boed sglein ar waith y Deyrnas ymhob rhan o’r wlad. Gweddi, gwaith a dyfalbarhad; o gael y tri pheth hynny, dan wennau Duw a thrwy ras ein Harglwydd Iesu Grist, a than arweiniad yr Ysbryd Glân, cawn wasanaethu mymryn eto, a chael pleser o wneud hynny! Bendith arnoch!

Newyddion
News
08/03/2010
Dewch i Greu Baner Feiblaidd !
02/03/2010
Cyfarfodydd Undeb 2010
01/03/2010
Dau Ddiwrnod i'r Gweinidogion
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk