
Powlenni Apêl De Affrica
13/08/2008Apêl Fawr yr Annibynwyr 2008-9
Dyma fodd i gadw'r Apêl mewn golwg - yn llythrennol ! Gellir ei defnyddio fel 'plat casglu' i'r Apêl, ymhlith pethau eraill. Mae sawl gwahanol batrwm, mewn tri maint sy'n costio £10, £5 a £3.
Sut i Brynu Bowlen :
- Yn Diwrnod i'r Brenin ar Hydref 4 yn Llanelwedd. Dewch i ddewis un !
- Gan Delyth Evans a Glyn Williams pan fyddan nhw'n dod i'ch Cyfundeb, Gofalaeth neu'ch Capel chi i siarad am yr Apêl a'u profiadau yn Ne Affrica. (Ydy chi wedi eu gwahodd nhw eto ? Cysylltwch â Thŷ John Penri am fanylion.)
- Yn y Cyngor, Gregynog Hydref 30.
- Trwy'r person sy'n gyfrifol am yr Apêl yn eich Cyfundeb. Ydy chi wedi penodi un ?
- Trwy drefniant gyda Thŷ John Penri : 01792 795 888 neu Undeb@annibynwyr.org
Cafodd y powlenni papier-mâché eu gwneud gan wragedd Wola Nani - mudiad sy'n darparu gwaith a gofal i wragedd HIV-Positif a'u plant ym maestrefi Cape Town. Mae nhw'n un o bartneriaid Cymorth Cristnogol yn Ne Affrica fydd yn derbyn arian o'r Apêl. Mae'r Undeb wedi prynu cannoedd o'r powlenni hyn yn uniongyrchol. Felly, ar wahan i'r gost o'u cludo yma o Dde Affrica, bydd yr arian o werthu'r powlenni yn mynd i brosiectau sy'n helpu pobl sydd mewn angen gwirioneddol.
MYNNWCH POWLEN FAWR I'CH CAPEL CHI !

