Annibynwyr Title
 
 
 
 
Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro

Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro

15/08/2008

Blas o'r Cwrdd Chwarter

Yr emyn agoriadol oedd "Diolch i Ti, Dad yr Oesoedd" gan y prifardd Eirwyn George (un o aelodau Seilo) ar y dôn Blaenwern - enw'r fferm gyfagos lle cynhaliwyd y gwasanaethau cyn codi'r capel. Mrs Rhian Taylor, Ysgrifennydd Seilo roddodd yr hanes, cyn i Mrs Ann Morris, Mrs Rhian Taylor, Mrs Olwen O'Connor a Mr Norman Davies arwain y gwasanaeth.

Gŵr gwadd y prynhawn a'r hwyr oedd Alun Lenny, Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr. Cafwyd ganddo ddau anerchiad (gyda thrafodaethau yn dilyn) : Deffro'r Cwrdd Chwarter a Codi Llais Capeli mewn Cymdeithas. Dywedodd bod y Cwrdd Chwarter yn gyfle i gydweithio er mwyn ehangu'r dystiolaeth Gristnogol yn y fro. Awgrymodd ffyrdd ymarferol o weithredu sydd eisoes yn gweithio mewn ardaloedd eraill.                                                                                 cwrdd ch twffton

Y Parchg Islwyn Selby, is-lywydd y Cyfundeb, oedd wrth y llyw yn ystod y dydd ; yntau hefyd arweiniodd y defosiwn ar ddechrau'r gynhadledd. Offrymwyd gweddi cydymdeimlo ddwys iawn gan Miss Eirlys Charles, a rhoddwyd argraffiadau o'u hymweliad â Chyfarfodydd Blynyddol y Undeb yr Annibynwyr yn Abertawe gan Miss Grace Davies a Miss Mary Trott. Ymhlith materion eraill, mynegwyd pryder ynglŷn ag effaith camdrin alcohol ar gymdeithas, ac am safonau moesol rhai rhaglenni teledu. Penderfynwyd gofyn i'r Pwyllgor Gwaith ystyried y materion hyn ymhellach.

Apeliwyd am wirfoddolwyr i stiwardio ym mhabell yr Annibynwyr ar faes Sioe Amaethyddol Penfro yn Hwlffordd eto eleni. Braf oedd cael cadeiriau cyffyrddus ar lawnt capel Seilo i ymlacio yn yr haul rhwng y sesiynau, a stondin Masnach Deg gerllaw o dan ofal Mr Simon Moffett. Ysgrifennydd y Cyfundeb, y Parchg Geoffrey Eynon, ofynnodd bendith Duw ar ddiwedd y dydd.

[Crynodeb sydd yma o adroddiad Miss Mary Trott o'r Cwrdd Chwarter. Diolch yn fawr iawn iddi.]

Newyddion
News
08/03/2010
Dewch i Greu Baner Feiblaidd !
02/03/2010
Cyfarfodydd Undeb 2010
01/03/2010
Dau Ddiwrnod i'r Gweinidogion
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk