Annibynwyr Title
 
 
 
 
Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro

Gwahodd Undeb 2012 i Sir Benfro

15/08/2008

Mae brwdfrydedd mawr ynglŷn â gwahodd Cyfarfod Blynyddol Undeb yr Annibynwyr i Sir Benfro yn 2012. Bydd penderfyniad ynglŷn â'r union leoliad yn cael ei wneud eto.

Cytunwyd i estyn y gwahoddiad mewn Cwrdd Chwarter yng nghapel Seilo, Twffton - pentref bach i'r de o Fynyddoedd y Preselau, yn agos iawn i'r ffin ieithyddol sy'n rhedeg ar draws Sir Benfro. Yn y llun gwelir ffyddloniaid Cwrdd Chwarter y Cyfundeb.

cwrdd chwarter twffton

Mae gan yr Annibynwyr tua 1,800 o aelodau mewn 32 o gapeli yn Sir Benfro, yn ymestyn o Drewyddel i Dŷ Ddewi. Mae rhai yn addoli'n ddwyieithog, tra bo capeli eraill yng nghadarnleoedd yr iaith, mewn llefydd fel Crymych a Maenclochog.

Newyddion
News
01/07/2009
Pum Cynnig i Undeb 2009
30/06/2009
Bras-raglen Undeb 2009
29/06/2009
Dewch am dro i'r Sul Sbesial !
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk