Annibynwyr Title
 
 
 
 
Deiseb i gael tîm o Gymru'n y Gemau

Deiseb i gael tîm o Gymru'n y Gemau

22/08/2008

Gwyliau neu beidio, bu'r Ysgrifennydd Cyffredinol Dr Geraint Tudur ar radio a theledu yr wythnos hon i esbonio pam fod yr Undeb yn pwyso am gael tîm o Gymru yn y Gemau Olympaidd nesa yn Llundain, 2012.

Cawsom gefnogaeth a gwrthwynebiad, canmoliaeth a gwawd. Dryswyd rhai yn lân gan ein beiddgarwch yn codi'r testun o gwbwl ! (Ewch i Dudalen 2 i flasu'r ymateb.)

Rydym yn ymfalchio'n fawr yn llwyddiant eithriadol yr athletwyr o Gymru yn Beijing. Ond mae gwrthod rhoi'r hawl iddyn nhw i fynegi eu Cymreictod yn eu dathliadau o flaen llygaid y byd yn anghyfiawnder rhonc. Yr unig ateb yw rhoi lle i Gymru ar lwyfan y byd Olympaidd trwy gael tîm cenedlaethol - yn enwedig gan ein bod ni fel cenedl yn cyfrannu degau o filiynau o bunnau i'r Gemau yn Llundain trwy'r grantiau a gollir.

"Os ydych chi'n credu bod hawl gan Gymru i fodoli ar lwyfan fyd-eang, yna rwy'n eich gwahodd  i arwyddo'r ddeiseb hon," meddai Dr Geraint Tudur. Os yr ydych chi'n cytuno, ewch i :

www.cynulliadcymru.org/gethome/e-petitions/P-03-169

Newyddion
News
01/07/2009
Pum Cynnig i Undeb 2009
30/06/2009
Bras-raglen Undeb 2009
29/06/2009
Dewch am dro i'r Sul Sbesial !
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk