Annibynwyr Title
 
 
 
 
Awdur Prysur yr Annibynwyr

Awdur Prysur yr Annibynwyr

05/11/2008

Mae cyhoeddi llyfr yn achlysur pwysig i awdur, ond mae cyhoeddi tri o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd yn dipyn o gamp - yn enwedig pan fo'r llyfrau’n gynnyrch academaidd o safon ryngwladol. Dyna wnaeth y Parchg Ddr Noel Davies, sy'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Abertawe, yn Gydlynydd Addysg a Hyfforddi Coleg yr Annibynwyr Cymraeg yn ne Cymru ac yn arbenigwr blaenllaw ar hanes eciwmeniaeth. dr noel davies  Fersiwn estynedig Saesneg o'i lyfr Un Er Mwyn y Byd (1998) yw A History of Ecumenism in Wales 1956-1990 (Gwasg Prifysgol Cymru £50), testun sy'n agos iawn at galon yr awdur gan iddo fod yn Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngor Eglwysi Cymru a Chytûn, y mudiad cydenwadol presennol, am gyfnod o ugain mlynedd, o 1977 tan 1998. "Rwy'n dal i gredu mai calon y mudiad eciwmenaidd yw ymwneud yr eglwys a'r byd," meddai Noel, mewn achlysur arbennig i hyrwyddo'r tri llyfr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ar ddydd Mawrth, Tachwedd 4. "Mae'n fodd i adfer, nid yr eglwysi yn unig, ond hefyd cymdeithasau lleol a'r genedl ei hun."

Newyddion
News
01/07/2009
Pum Cynnig i Undeb 2009
30/06/2009
Bras-raglen Undeb 2009
29/06/2009
Dewch am dro i'r Sul Sbesial !
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk