Annibynwyr Title
 
 
 
 
Syniadau Codi Arian i'r Apêl

Syniadau Codi Arian i'r Apêl

07/11/2008

10.30 Bore Sadwrn, Tachwedd 15  Eglwys Cana ger Bancyfelin. Bore Coffi ac Arddangosfa : Cana, ddoe a heddiw’  Croeso cynnes i bawb.  Tocynnau £2

3 Rhagfyr, Siloa, Aberdar : Noson "Body Shop". Bydd yr Apêl yn derbyn 10% o werth y nwyddau fydd yn cael eu prynu ar y noson.

Mynydd Seion, Casnewydd : "Noddi Nodyn" - cyfle i'r aelodau ddewis emyn / carol / cân yn ystod cyfnod yr Apêl, a thalu am y fraint !

Y nod yw codi £12 yr aelod - sef £1 y mis. Cyfnod yr Apêl yw Gorffennaf 2008 - Gorffennaf 2009.

Anogir aelodau i gynnal gweithgarwch yn eu capeli neu yn y gymuned leol, gan roi cyfle arbennig i blant a phobl ifanc i gymryd rhan.

Mae'r adnoddau i gyd ar safle Cymorth Cristnogol :

cymorthcristnogol.org/issues/deaffrica/pecyn/pecyn.aspx

Cofiwch bod Delyth Evans, Glyn Williams a Tom Defis wedi bod yn Ne Affrica i weld y gwaith a gefnogir gan yr Apêl, ac ar gael i anerch capeli a Chyfundebau.


Newyddion
News
08/03/2010
Dewch i Greu Baner Feiblaidd !
02/03/2010
Cyfarfodydd Undeb 2010
01/03/2010
Dau Ddiwrnod i'r Gweinidogion
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk