Annibynwyr Title
 
 
 
 
Adnoddau Beiblaidd Newydd i Blant - am ddim !

Adnoddau Beiblaidd Newydd i Blant - am ddim !

19/11/2008

Mae`r wefan www.amserbeibl.org/ yn cynnig cyfres 3 mlynedd o wersi Beiblaidd ar gyfer plant 5-7 oed; 8-10 oed; 11-13 oed ac 14+ oed. Enw`r cynllun yw AmserBeibl ac mae`r gwersi mewn ffurf taflenni gwaith parod llawn hwyl gydag amrywiaeth o weithgareddau a phosau. Y nod yw dod a'r Beibl yn fyw a`i neges yn berthnasol  i'n hoes ni.

Yn ychwanegol i`r gwersi uchod mae detholiad o storïau Beiblaidd Cymraeg ar PowerPoint ar gael ar y wefan www.visionforchildren.com. Cliciwch ar y ddraig goch i ddod o hyd i`r deunydd Cymraeg. Mae`r adnodd hwn yn lliwgar a deniadol ac yn gyfrwng effeithiol a chyfoes i gyflwyno hanesion y Beibl i blant. Bydd storïau eraill yn cael eu hychwanegu atynt o bryd i`w gilydd.

Manylion pellach ar gael gan Nigel Davies, Swyddog Plant ac Ieuenctid Menter Cydenwadol Gogledd Myrddin. Rhif ffôn: (01994)230049. e-bost gogmyrddin@uwclub.net 

[Nid yw Undeb yr Annibynwyr yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.]

 
Newyddion
News
18/07/2010
Blas o Fwrlwm Undeb 2010
14/07/2010
Oedfa'r Llywydd: Y Parchg Andrew Lenny
11/07/2010
Undeb : Dewch a'r milwyr adre
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk