
Gweinidogion yn Dysgu am Frwydr y Bryniau
10/06/2009Ym 1946, roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn am droi'r Preselau yn faes ymarfer i danciau rhyfel. Ond bu gwrthwynebiad chwyrn ac unedig o'r dechrau'n deg, gyda gweinidogion mewn ardaloedd fel Maenclochog, Brynberian a Llandysilio yn flaenllaw yn yr ymgyrch.
Gosodwyd y frwydr ar seiliau ysbrydol a moesol cadarn o’r dechrau, ac roedd radicaliaeth Anghydffurfiol yn ffactor amlwg yn y frwydr, meddai Hefin Wyn.
"Mae’r straeon am wrhydri’r Parchg Joseph James a’r Parchg R. Parri Roberts yn rhan o draddodiad llafar yr ardal. Bygythiodd y naill feddiannu un o’r bythynnod a gwrthod gadael nes ei garcharu, a dywedodd y llall wrth y cadfridogion rhyfel mai magu eneidiau a wneir ar y Preselau pan ddywedwyd wrtho nad oedd yna fawr o werth i’r tir anial heblaw i besgi wyn a lloi."
Yn y diwedd, fe ildiodd y Weinyddiaeth Amddifyn a sefydlu'r maes ymarfer ar ystad Castell Martin yn ne Penfro.
Cafwyd trafodaeth a chyfle i holi cwestiynnau ar ôl y ddarlith, a lywyddwyd gan y Parchg Emyr Gwyn Evans. Daeth y noson i ben trwy ddefosiwn gan y Parchg Peter Williams.

