Annibynwyr Title
 
 
 
 
Gweithiwr Prysur Gorllewin Morgannwg

Gweithiwr Prysur Gorllewin Morgannwg

15/06/2009

Mae holiadur a anfonwyd allan gan Siân Rumbelow i eglwysi Annibynnol Gorllewin Morgannwg yn dangos bod 21 Ysgol Sul a dau glwb ieuenctid ( gyda 188 o blant a 56 o bobl ifanc ) o fewn y Cyfundeb. Yn sgil hynny, cynhaliwyd cyfarfod er mwyn trafod a datblygu rhaglen gwaith Siân fel gweithiwr plant ac ieuenctid.  logo gorllewin morgannwg

Mae Siân wedi bod yn anfon gylchlythyrau chwarterol i’r capeli, ac wedi creu grŵp "Facebook" o’r enw CYFAC-GM. Cafwyd cystadleuaeth i gynllunio logo (dde)  sy’n cael ei ddefnyddio ar lythyron a siwmper / crys-T y swyddog ieuenctid.

Bu Siân hefyd yn rhan o wasanaethau teuluol mewn sawl capel ac yn ymweld â nifer o ysgolion Sul i gynnig help.  Hefyd mae hi’n mynd i glybiau ieuenctid Capel Bethel Sgeti a Chapel y Nant Clydach yn fisol. Mae hi wedi trefnu disgo yn Nhabernacl Treforys a noson bowlio deg yn Abertawe. Yn ogystal  mae Siân wedi bod i Ysgol Gynradd Saesneg y Crwys a Chlwb Cristnogol Ysgol Gyfun Gŵyr.

Dyletswydd arall yw creu adnoddau ar gyfer ieuenctid.  Mae wedi paratoi pecynnau ar HIV, Gwyliau Cristnogol, Apêl De Affrica, Yr Amgylchedd, a Rhyfel a Heddwch. Hefyd, mae Siân wedi cynhyrchu 12 gwers arloesol i ddefnyddio pan mae hi’n ymweld ag ysgolion Sul. Y patrwm arferol yw cyflwyno’r thema wrth wneud rhywbeth hudol, darllen stori i ymhelaethu ar y thema (weithiau wrth ddefnyddio pyped), wedyn cael y plant i wneud gwaith ymarferol perthnasol cyn crynhoi’r neges ar y diwedd. Mae llawer o adnoddau wedi eu prynu yn cynnwys taflunydd, sgrin, parasiwt,  defnydd hud a llyfrau. Mae’r adnoddau ar gael i fenthyca.

Newyddion
News
15/03/2010
Cynnwrf y Cyngor
14/03/2010
Lle i Bawb ar Golwg360
14/03/2010
Cyfarfodydd Undeb 2010
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk