Annibynwyr Title
 
 
 
 
Dathlu 125 Minny Street Caerdydd

Dathlu 125 Minny Street Caerdydd

29/06/2009

Agorwyd eglwys Annibynnol Minny Street ar y Sulgwyn,1884 i wasanaethu ardal y Waun Ddyfal, Caerdydd. Eleni, o Ŵyl y Sulgwyn hyd ddiwedd mis Mehefin cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu 125 mlynedd ers sefydlu’r achos.

Cyfle i’r eglwys ddiolch a dathlu'r hyn a fu a’r hyn ydyw oedd yr Oedfa Gymun foreol. Gyda’r hwyr ymunodd cyfeillion o eglwysi Cymraeg y ddinas mewn cwrdd lle bu’r gweinidog, y Parchg Owain Llyr Evans yn sôn am "y peth gwerthfawr" (IITimotheus 1:14).  Dywedodd nad edrych yn ôl yw unig ddiben dathlu ond ysgogiad i gynnal y tân i’r dyfodol trwy ddiogelu "y peth gwerthfawr a ymddiriedwyd i’n gofal". 

        Llyfr Newyddllyfr minny st

 Fel rhan o’r dathlu, cyhoeddwyd "Llewyrch Ddoe, Llusern Yfory", sy’n crynhoi hanes yr eglwys mewn tua 100 o dudalennau a 100 o luniau. Mawr yw diolch yr aelodau i’r tri golygydd, John Gilbert Evans, Glyn E. Jones a Iolo Walters, ynghyd â Gwasg Gomer. Yn ystod y lansiad, cyflwynwyd copi cyntaf y gyfrol i'r Parchg Owain Llyr gan Ysgrifennydd yr Eglwys, Bethan Jones, a chyflwynwyd copïau gan Owain Llyr i gyn-weinidogion yr Eglwys ac i Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, y Parchedig Ddr Geraint Tudur (yn y llun).

Newyddion
News
03/09/2010
Ymgyrch Genhadol yn Rhydaman
02/09/2010
Ymgyrch Hawliau Henoed yn Parhau
16/08/2010
Ail Flwyddyn Brysur Sian
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk