Annibynwyr Title
 
 
 
 
Dyfodol Festrioedd ac Ysgolion Sul

Dyfodol Festrioedd ac Ysgolion Sul

16/09/2009

Roedd anerchiad Cris Tomos yng Nghwrdd Chwarter Gorllewin Caerfyrddin yng Nghapel Newydd, Llanybri o ddiddordeb mawr i bawb sy’n ymdrechu i gynnal capel lleol. "Festri’r capel : defnydd a grantiau" oedd testun Cris, sy’n ddirprwy-gyfarwyddwr Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS).                                   Cris Tomos  Clywodd  y cynrychiolwyr bod amrywiaeth o grantiau ar gael - nid yn unig i dalu am waith ar adeiladau, ond hefyd tuag at gynnal gweithgarwch a chydnabod gwasanaeth pobol.

Cytunwyd y dylai’r Cyfundeb, gyda chymorth CAVS, lunio taflen arbennig yn nodi pa grantiau sydd ar gael yn benodol ar gyfer capeli, a sut i ymgeisio amdanynt. 

Tudalen nesaf : Cynllun Ysgolion Sul

Newyddion
News
16/05/2013
Y Gymraeg a Christnogaeth
16/05/2013
Rhwydweithio Cymdeithasol
16/05/2013
Arfau i Fadagascar
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk