
Dyfodol Festrioedd ac Ysgolion Sul
16/09/2009Ond ofer yw gwario arian ar gynnal adeiladau os nad oes gweithgarwch Cristnogol yn digwydd o’u mewn. Ac ar ôl te hyfryd ar brynhawn hafaidd o Fedi, cafwyd sesiwn hwyrol gyda Nigel Davies – sydd newydd ddechrau ar ei waith fel swyddog Menter Ieuenctid Cristnogol Sir Gâr (MIC).
Esboniodd sut y bydd yn cydweithio gydag Ysgolion Sul a Chlybiau Ieuenctid ar draws enwadau’r capeli. Bydd ei syniadau a’i frwdfrydedd yn hwb i athrawon Ysgolion Sul, tra bod nifer o weithgarwch – popeth o gemau peldroed i cwisis Beiblaidd – ar y gweill.
Roedd hi’n galondid mawr clywed bod nifer o gapeli, gan gynnwys rhai sydd heb Ysgol Sul, wedi ymrwymo i gefnogi’r cynllun newydd hwn yn ariannol.
Tudalen nesaf: Tomatos yr Undeb !

