
Llawlyfr ein Rhaglen Datblygu
07/02/2010Mae’n amser cynhyrfus iawn yn ein hanes fel Annibynwyr!
Dan law Duw, yn enw Iesu Grist ac yn nerth yr Ysbryd Glân, mae’r amser wedi dod i ni roi trefn arnom ein hunain, a hynny trwy ymroi o’r newydd i wasanaethu Duw yn yr oes hon yr ydym yn perthyn iddi.
Rhaid i ni ail-ddarganfod ein hyder, hyfforddi ein hunain a’n gilydd, a bwrw ati i weithio yn ein cymunedau, a thrwy hynny dystiolaethu i fawredd cariad Duw at y byd, a’i ofal drosto.
Mae’n amser i bethau newid. Gwahoddwn chwi, yn unigolion, eglwysi a Chyfundebau, i ymuno yng ngwaith Rhaglen Datblygu Annibynwyr Cymru: rhaglen gynhyrfus, rhaglen bosib, rhaglen yr ydym wir ei hangen.
Darllenwch hi yma, ystyriwch ei chynnwys a’i argymhellion, gweddïwch uwch ei phen, ac ymunwch ynddi - oherwydd mae’r amser wedi dod.

