Annibynwyr Title
 
 
 
 
Urdd ac alcohol : Deiseb ar-lein

Urdd ac alcohol : Deiseb ar-lein

02/02/2010

Yn dilyn penderfyniad Urdd Gobaith Cymru i ganiatáu gwerthu alcohol ar faes yr Eisteddfod yn Llanerchaeron, Ceredigion ym mis Mai 2010, mae e-ddeiseb wedi cael ei lansio yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i Eisteddfod yr Urdd yn y dyfodol ar yr amod na werthir alcohol ar faes yr Eisteddfod.

gwin a chwrw Gellir arwyddo’r ddeiseb yma.

Disgrifiodd Wynford Ellis Owen yr e-ddeiseb fel "Ymdrech munud-olaf i achub yr Urdd rhag ei hunan".  

Ewch i : www.cyngorcymru.org.uk/index-cymraeg.html

Mae Undeb yr Annibynwyr wedi gwneud safiad cadarn yn erbyn caniatáu alcohol ar faes yr Urdd, yn sgil Penderfyniad Cyfarfodydd Blynyddol 2009 yn Llysfasi.

Cyn-farnwr yn mynegi barn !

Mae’r cyn-farnwr, Dewi Watkin Powell wedi datgan gofid mawr am benderfyniad yr Urdd i ddarparu alcohol i’w yfed ar y Maes.  "Mae’r gwbl groes i egwyddorion sylfaenol yr Urdd  i wasanaethu Cymru, Cyd-ddyn a Christ," dywedodd, wrth gefnogi'r ddeiseb.

"Y mwya i gyd y ffynonellau, mwya i gyd yr yfed a mwya i gyd y troseddu. Does dim amheuaeth bod y rhan fwyaf o droseddau yn y cartref gyda’r nos yn deillio o yfed, ac felly yn tanseilio nid yn unig y teulu, ond hefyd y gymdeithas.

"Y neges y mae’r Urdd yn ei roi nawr i ieuenctid Cymru yw ei bod yn beth braf i yfed ac oherwydd hyn, yr hyn y maent yn ei wneud yw creu perygl diamau y bydd cynnydd pellach yn y nifer sydd yn gaeth i alcohol."

 

 
Newyddion
News
08/03/2010
Dewch i Greu Baner Feiblaidd !
02/03/2010
Cyfarfodydd Undeb 2010
01/03/2010
Dau Ddiwrnod i'r Gweinidogion
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk