Annibynwyr Title
 
 
 
 
Pythefnos Masnach Deg

Pythefnos Masnach Deg

22/02/2010

Am bythefnos bob blwyddynpythefnos masnach deg mae cymunedau ledled Cymru a gweddill Prydain yn dathlu Pythefnos Masnach Deg. Mae'n achlysur sy'n uno holl gefnogwyr Masnach Deg ; gan glymu masnachwyr, cynhyrchwyr, busnesau ac ymgyrchwyr mewn ymdrech genedlaethol i hyrwyddo gwell ymwybyddiaeth a chodi gwerthiant nwyddau Masnach Deg.

Yn Undeb Wrecsam 2005 addawodd yr Annibynwyr i gefnogi a hyrwyddo Masnach Deg, gan annog eglwysi i gofrestru fel rhai Masnach Deg.

Beth am sicrhau bod eich eglwys chi yn un Fasnach Deg ?

Beth mae hynny’n olygu ?

  • Trefnu  arddangosfa Masnach Deg a dosbarthu taflenni.
  • Cynnwys gweddïau a gwybodaeth ar Fasnach Deg mewn gwasanaeth.
  • Paratoi erthygl  am Fasnach Deg ar gyfer papur/cylchgrawn/taflen wybodaeth eich eglwys
  • Gweini te a choffi Masnach Deg ar ôl gwasanaethau/a mewn cyfarfodydd eraill.
  • Penderfynu mewn Cwrdd Eglwys i fod yn Eglwys Masnach Deg - a rhoi gwybod i Ty John Penri.   

Bydd llu o weithgareddau yng Nghymru yn ystod Pythefnos Masnach Deg. Ewch i :

www.fairtradewales.com/pythefnos_masnach_deg_/1038

Newyddion
News
08/03/2010
Dewch i Greu Baner Feiblaidd !
02/03/2010
Cyfarfodydd Undeb 2010
01/03/2010
Dau Ddiwrnod i'r Gweinidogion
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk