
Llwyddiant Apêl De Affrica
19/02/2010Sawl Argraff
"Mae sawl argraff yn aros yn y cof," meddai Delyth Evans. "Un yw y derbyniad cynnes a chwrtais a gawsom gan bob un o’r mudiadau y buom yn ymweld â nhw. Peth arall na wnaf fyth mo’i anghofio yw arogl y "shack settlement " yn Kennedy Road y tu allan i Durban oedd yn gartref i dros 7,000 o bobl; mae ond meddwl amdano yn dod â gwynt y domen sbwriel enfawr yn "pobi" yng ngwres y dydd gyda’r twpath o fagiau plasting du yn mud-losgi i’m ffroenau y funud hon!
Ond y peth wnaeth greu mwy o argraff oedd hunan-falchder tawel, a hyd yn oed llawenydd y bobl oedd yn gorfod byw dan y fath amgylchiadau. Roedd y tlodi enbyd a’r angen am y pethau mwyaf elfennol yn amlwg ymhob man, a’r gwrthgyferbyniad rhwng y rhai oedd uwchben eu digon a’r mwyafrif llethol oedd heb ddim i’w weld yn glir.
Wrth gadw llygad ar y sefyllfa dros y we yn ddiweddar siom fawr yw deall bod y sefyllfa yn Kennedy Road wedi gwaethygu a’r gormes a’r tlodi’n dwysau; mae’r angen am gymorth hyd yn oed yn fwy yn awr o’i gymharu â Mai 2008."
Nid Arian yn Unig
Pwysleisiodd Llywydd yr Undeb, y Parchg Guto Prys ap Gwynfor, nad arian yn unig a aeth i Dde Affrica o Gymru. "Fe aeth ewyllys da a brawdgarwch yn ogystal," meddai. "Nid arian yn unig a dderbyniwyd o Gymru yn Ne Affrica; fe dderbyniwyd gobaith a llawenydd hefyd. Ond yn bennaf oll danfonwyd a derbyniwyd y cariad sy’n perthyn i’r Efengyl ac sy’n deillio o Dduw’r Creawdwr, y cariad a ymgnawdolwyd yn Iesu."

