
Penderfyniadau Undeb 2010
04/07/2010
1. Rhyfel Afghanistan
Mae’r Undeb hwn wedi galw ar lywodraeth San Steffan yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf i ddod â rhyfeloedd Irac, Afghanistan a mannau eraill, i ben. Credwn fod rhyfel yn sarhâd ar Dduw ac yn groes i ddysgeidiaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Unwaith eto eleni, felly, gan fod y rhyfela yn parhau yn Afghanistan, a chan gymaint ein gofal a’n consyrn dros y gwŷr a’r gwragedd, a’r bechgyn a’r merched, ar y naill ochr a’r llall, sydd mewn perygl oherwydd y sefyllfa yno, yr ydym yn galw ar lywodraeth San Steffan i ddod a’r milwyr adref cyn gynted â phosibl.
Ymhellach, yr ydym yn galw eto ar i’r arian sy’n cael ei wario ar y rhyfel hwn gael ei ddargyfeirio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i brynu cyffuriau a meddyginiaethau i’r cleifion hynny sydd ar hyn o bryd yn methu cael triniaeth oherwydd cost uchel y triniaethau hynny.
Cynnig: Parchg Ddr Geraint Tudur
Eilio: Parchg Ddr

