Annibynwyr Title
 
 
 
 
Dysgu am Gam y Llwythau

Dysgu am Gam y Llwythau

23/06/2010

Undod Ysbryd yn Rhwymau Heddwch - dyna thema'r gynhadledd yn Grand Rapids yn UDA, lle mae dros 350 o gynrychiolwyr o 100 o wledydd yn cyfarfod am y tro cyntaf fel Cymundeb Byd-eang yr Eglwysi Diwygiedig (WCRC). brodorion grand rapids

Mewn adlais trist o'r Welsh Not, esboniodd Richard Twiss, o lwyth y Lakota Sioux (llun bach uchod), sut y ceisiodd llywodraethau Canada ac UDA ddileu'r llwythi brodorol trwy orfodi eu plant i fynychu ysgolion preswyl lle nad oedd unrhyw sylw'n cael ei roi i'w hiaith a'u diwylliant. 

Bu gan yr eglwys ran ganolog yn rhedeg yr ysgolion hyn. Soniodd Richard Twiss am ei gariad tuag at Iesu Grist a'i ddrwgdybiaeth o'r eglwys a sefydlwyd yng ngogledd America gan bobl o Ewrop. Bydd angen llawer o waith caled, cyfaddawd a chymod i lleddfu'r boen, meddai. Canmolodd y WCRC am roi llwyfan i'w cam.

gorymdaith 

Tudalen nesa : Annibynwyr Cymraeg mewn oedfa.

Newyddion
News
03/09/2010
Ymgyrch Genhadol yn Rhydaman
02/09/2010
Ymgyrch Hawliau Henoed yn Parhau
16/08/2010
Ail Flwyddyn Brysur Sian
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk