
Cwlwm Cymru a Madagascar yn Grand Rapids
30/06/2010Wrth gerdded ar draws campws Coleg Calfin yn Grand Rapids, lle mae cynrychiolwyr 227 o enwadau ac undebau sy'n perthyn i'r traddodiad diwygiedig yn cwrdd, clywodd Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr, rywun yn galw arno. Wedi troi i edrych, gwelodd ŵr dieithr yn nesu ato.
‘Fe’ch gwelais yn arwain y gweddiau yn y gwasanaeth y dydd o’r blaen,’ meddai, ‘ac roedd yn rhaid i mi gael siarad â chi. F’enw yw Lala Rasendrahasina, a fi yw Llywydd Eglwys Iesu Grist yn Madagasgar.’

Wedi dod dros y sioc, dywedodd Geraint iddo gofleidio'r gŵr fel brawd yn y ffydd. Annibynwyr o Gymru aeth â'r ffydd Gristnogol i’r ynys am y tro cyntaf, yn ôl ym 1818.
Y llynedd, cafodd Lala Rasendrahasina ei arestio a'i guro yn ystod coup d'état ym Madagascar. Tan yn ddiweddar, treuliodd gyfnod yn alltud yn Grand Rapids ar ôl i rai o aelodau ei eglwys gael eu saethu'n farw gan filwyr.

