Annibynwyr Title
 
 
 
 
Cwpan Denman : Cyfle o Hyd !

Cwpan Denman : Cyfle o Hyd !

01/07/2010

Mae diddordeb mawr yng nghystadleuaeth Cwpan Denman Rhodd Cyfundeb Lerpwl eleni. Yr her yw defnyddio deunydd sy'n cael ei ailgylchu i greu golygfa o'r Beibl. Ni ddylai fod yn fwy na 6 x 4 troedfedd (tua 2 x 1 medr). peter spriggs

Y beirniad fydd Peter Spriggs, arlunydd nodedig a anwyd yng Nghaerdydd a sydd nawr yn darlithio yng Ngholeg Celf Sir Gâr. Cafodd ei waith ei arddangos mewn orielau ledled Cymru, yn Llundain ac ar y Cyfandir.

Os am gystadlu, dewch a'ch gwaith i Theatr Halliwell, Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin (map: undeb2010.com/page3.html ) naill ai :

  • pnawn Mercher, 7 Gorffennaf (4-5 pm) neu 
  • bore Iau 8 Gorffennaf (10.00-12.00) *

Bydd Peter yn beirniadu'r gwaith nos Iau, a bydd yr enillwyr yn cael gwybod yn syth, er mwyn rhoi cyfle iddynt ddod i'r seremoni wobrwyo am 9.45 fore Sadwrn.

Bydd gwaith pawb sy'n cystadlu yn cael ei arddangos yn y Theatr am dridiau'r Cyfarfodydd Blynyddol.

(*Ffoniwch Tŷ John Penri 01792 795888 os am gymorth)

Newyddion
News
03/09/2010
Ymgyrch Genhadol yn Rhydaman
02/09/2010
Ymgyrch Hawliau Henoed yn Parhau
16/08/2010
Ail Flwyddyn Brysur Sian
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk