Annibynwyr Title
 
 
 
 
Ethol Darpar Lywydd yr Undeb

Ethol Darpar Lywydd yr Undeb

02/07/2010

Etholwyd y Parchg Ron Williams, Caernarfon yn ddarpar-lywydd Undeb yr Annibynwyr. Yn enedigol o Glynarthen yn ne Ceredigion, cafodd ei ordeinio ym 1971 ym Methania, Cwmafan. Ymhen pum mlynedd, symudodd i'r Tabernacl Penybont-ar-ogwr, ac i Salem Caernarfon ym 1979. Ers deng mlynedd, bu hefyd yn weinidog Tabernacl Porthaethwy. Parchg Ron Williams

Dros y blynyddoedd bu'n gyfrannwr cyson i weithgareddau'r Undeb. Mae'n aelod o'r Pwyllgor Gweinyddol, ac yn gyn-Ysgrifennydd a chyn-Gadeirydd yr Adran Ieuenctid. Dilynodd Ron Williams ei dad i'r weinidogaeth, a dywed ei fod yn ymdrechu i ddilyn cyngor ei dad i fod yn ffyddlon i'w gyd-weinidogion, y Cwrdd Chwarter a'r Undeb.

Yr ymgeisydd arall am y darpar-lywyddiaeth oedd y Parchg Dyfrig Rees, Rhydaman. Mae'r ffaith i'r bleidlais fod yn un sylweddol, a'r canlyniad mor hynod o agos, yn brawf o boblogrwydd y ddau ymgeisydd.

Bydd y Parchg Andrew Lenny yn cael ei sefydlu'n Llywydd am ddwy flynedd yn Undeb Caerfyrddin wythnos nesa, a'r Parchg Ron Williams yn ei olynu yn 2012.

Newyddion
News
03/09/2010
Ymgyrch Genhadol yn Rhydaman
02/09/2010
Ymgyrch Hawliau Henoed yn Parhau
16/08/2010
Ail Flwyddyn Brysur Sian
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk