Annibynwyr Title
 
 
 
 
Undeb : Dewch a'r milwyr adre

Undeb : Dewch a'r milwyr adre

11/07/2010

Ar yr union adeg yr oedd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn ei gyfarfod blynyddol yng Nghaerfyrddin, yn galw am dynnu byddin Prydain o Afghanistan, daeth y newyddion mai milwr o’r dref honno oedd y diweddaraf i’w ladd yn y rhyfel. Undeb 2010

"Wrth alw ar lywodraeth Prydain i ddod a’r milwyr adre, allan o gonsyrn dros y gŵyr a’r gwragedd sy’n cael eu lladd yno, fe ddangoswyd wynebau’r 312 o filwyr Prydeinig a fu farw hyd hynny ar fur fideo'r gynhadledd," meddai Dr Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.

"Erbyn diwedd y dydd, byddai wyneb gŵr ifanc o Gaerfyrddin, Samuel Robinson o Fronwydd, i’w ychwanegu at y galeri drist honno. Mae’r sefyllfa’n dorcalonnus."

Newyddion
News
03/09/2010
Ymgyrch Genhadol yn Rhydaman
02/09/2010
Ymgyrch Hawliau Henoed yn Parhau
16/08/2010
Ail Flwyddyn Brysur Sian
Dyluniwyd gan www.elfen.co.uk