
Holiadur Cydweithio Rhyng-ffydd
20/02/2012Mae Llywodraeth Cymru am asesu faint o weithgaredd cydenwadol a rhyng-ffydd sy’n digwydd ar lawr gwlad ymysg cymunedau ffydd yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth yn credu y gallai gweithgaredd rhyng-ffydd gyfrannu at fwy o ddealltwriaeth a pharch ymysg pobl Cymru.
Cafodd ymchwil ei gomisiynu ar ôl trafodaeth gydag arweinwyr ffydd yng Nghymru ar y Fforwm Ffydd, er mwyn:
- Asesu i ba raddau y mae cymunedau ffydd lleol yng Nghymru yn cysylltu'n gyson ac yn gadarnhaol â'i gilydd, sut a pham.
- Darparu tystiolaeth o arfer da i'r Fforwm Cymunedau Ffydd, i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo gweithgaredd rhyng-ffydd priodol.
- Cynyddu gwybodaeth Llywodraeth Cymru am weithgaredd rhyng-ffydd, er mwyn ei galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch sut y gallai ymgysylltu â grwpiau ffydd, a sut y dylai’r Fforwm Cymunedau Ffydd gael eu ffurfio.
Mae’n gobeithio clywed yn uniongyrchol gan gymunedau ffydd ar lawr gwlad, drwy arolwg ar ffurf holiadur (ar-lein a chopi papur) a thrwy gyfweliadau dros y ffôn.
Gallwch lanw’r holiadur ar-lein ar: http://www.keysurvey.co.uk/survey/411752/289d/
Mae angen dychwelyd yr holiadur erbyn 24 Chwefror.
[Gweithgaredd rhyng-ffydd yw: "Gweithgarwch sy'n dod â phobl o wahanol ffydd at ei gilydd er mwyn hyrwyddo cysylltiadau da, adeiladu dealltwriaeth, neu gydweithio i ddibenion a rennir". A gweithgaredd intra-ffydd (cyd-enwadol) yw unrhyw weithgaredd sy'n dod â phobl o wahanol enwadau o'r un ffydd at ei gilydd i’r dibenion uchod.]

