
Blas o'r Tyst yr wythnos hon
08/02/2012
Y Gweinidog Gweinyddol
Yn ôl sawl arolwg diweddar, mae gweinidogion bellach, yn gorfod treulio mwy a mwy o amser yn gweinyddu, ac yn mwynhau’r gweinyddu llai a llai, meddai’r parchg Owain Llŷr Evans. Daw i’r casgliad bod angen gwell gafael ar ystyr gweinyddu a gweinidogaethu. "Pobl sydd bwysig! Heb os! Byddai cael gwell gweinyddiaeth yn arwain yn anochel at gwell gweinidogaeth – gwell gofal o’n pobl."
Crefydd pobl dlawd?
Adolygiad o ‘Kings Cross’, llyfr gan Tim Keller, gweinidog ac awdur o Efrog Newydd. Mae canolbwynt diwygiad a thw^f Ysbrydol wedi symud o gyfnod i gyfnod oddi wrth gymdeithasau ffyniannus at y tlawd. Yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf bu tw^f mawr ar yr eglwys Gristnogol yn Affrica, De America a Tseina. Dyma gyfrol swmpus a sylweddol heb fod yn drwm. (King’s Cross, Hodder & Soughton, 2011. £12.99]
Gwerthfawrogi Barn Annibynnol
Ymhlith yr erthyglau eraill, mae Barn Annibynnol grymus gan y Parchg Euros Wyn Jones am waith cenhadol y Cristion, a llythyr gan Gareth Ioan yn diolch am y golofn honno, sy’n "rhoi cyfle i unigolion o wahanol draddodiadau ac argyhoeddiadau o fewn ein henwad leisio barn a myfyrdod, yn cynnig egni a deinamig gwerthfawr i’r cyhoeddiad ac i’n henwad."

