
Nawdd gan y Rhaglen Datblygu
20/03/2012Soar Nefyn: £300 i ddatblygu amrywiol brosiectau i estyn allan i’r gymuned, gyda nifer o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar hyd y flwyddyn, a gwahoddiadau’n cael eu hanfon at bawb o fewn y gymuned i ymuno ynddynt.
Eglwys Annibynnol Ebeneser, Caerdydd: £450 i’w helpu gydag ymgyrch genhadol i fyfyrwyr, ar y cyd ag Undebau Cristnogol Colegau Caerdydd.
Eglwys Annibynnol Seion, Aberystwyth: £500 at gostau cynnal Cwrs Alffa.
Cyfundeb Gorllewin Morgannwg: £1,500 tuag at y gost o ail lwyfannu’r cyflwyniad ar Gruffydd John y cenhadwr i Tsieina a gyflwynwyd am y tro cyntaf yng Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb yn Abertawe yn 2010 (llun uchod).
Cyfundeb Penfro: £200 tuag at gostau cynnal stondin ar faes Sioe Amaethyddol Sir Benfro.
Cofiwch fod y Panel Gwerthuso yn trafod ceisiadau pob deufis. Ceir ffurflen gais naill ai o Dŷ John Penri neu ar wefan yr Undeb: www.annibynwyr.org/agape/index.html

