
Canmlwyddiant Cyn-Lywydd
26/03/2012Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cofio Gwynfor Evans am ddau reswm: fel aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru ym 1966, ac am ei ran allweddol yn gorfodi llywodraeth Prydain i sefydlu S4C trwy fygwth ymprydio hyd at farwolaeth.
Ond roedd hefyd yn Gristion o argyhoeddiad, ac yn gyn-Lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Traddododd ei anerchiad o'r Gadair ym Mhen-y-groes, Sir Gaerfyrddin, ym 1954, ar y testun Cristnogaeth a'r Gymdeithas Gymreig. "'Roedd fy nhad yn Anghydffurfiwr i’r carn,"
meddai’r Parchg Guto Prys ap Gwynfor, sydd ei hun yn gyn-Lywydd yr Undeb. "Roedd radicaliaeth y traddodiad Annibynnol yn holl bwysig iddo, a heddychiaeth Gristnogol yn sylfaenol i’w ddaliadau gwleidyddol a’i ffordd o’u gweithredu." (Llun: Penddelw pres sy'n eiddo i'w deulu.)
Roedd Gwynfor yn ŵyr i’r Parchg Ben Evans, gweinidog cyntaf eglwys Annibynnol Tabernacl, Y Barri, ac Ysgrifennydd yr Undeb am ddwy flynedd (1898-1900). Mae aelodau’r teulu yn dal i fod ymhlith ffyddloniaid Y Tabernacl.
Eleni, bydd sawl digwyddiad i gofio canmlwyddiant geni Gwynfor Evans, gan gynnwys oedfa arbennig ar 2 Medi yn Y Priordy, Caerfyrddin lle mae un o gyn-weinidogion Y Tabernacl, y Parchg Beti-Wyn James, nawr yn weinidog.
Ffurfiwyd pwyllgor i godi cofeb barhaol iddo yn nhref Caerfyrddin erbyn 2016 – hanner-canmlwyddiant ei fuddugoliaeth yn is-etholiad 1966. Mae gwahoddiad i bobl anfon syniadau at: Pwyllgor Cofio Gwynfor, d/o Peter Hughes Griffiths, Llaindelyn, 20 Waundew, Caerfyrddin, SA31 1HE. Cyhoeddir cynllun y gofeb ar Fedi’r 1af, sef dyddiad penblwydd Gwynfor.
Fel y dywedodd Dafydd Iwan: Ni fyddai cenedl y Cymry yr hyn ydyw heddiw, efallai na fyddai’n cael ei chyfrif yn genedl o gwbl, oni bai am Gwynfor Evans.

