
Cofio'r Apostol Heddwch
03/04/2012
Saif cofeb Henry Richard (1812-88) ar sgwâr Tregaron, ei dref enedigol. Cynhaliwyd Gwylnos gan Gymdeithas y Cymod yng nghysgod y gofeb i gofio'r gŵr a gafodd ei alw’n "Apostol Heddwch" a'r "Aelod (Seneddol) dros Gymru".
Cafwyd crynodeb o gyfraniad Henry Richard i fywyd Cymru a'r byd gan Gwyn Griffiths (yn y llun), awdur Henry Richard: Apostle of Peace and Welsh Patriot, a bwysleisiodd ei ddewrder yn wynebu dicter ei elynion. Fore drannoeth bu oedfa o gylch y gofeb dan arweiniad Robin Gwyndaf. Bu oedfa hefyd ar noson ei benblwydd, Ebrill 3, ac wrth ei feddrod yn Abney Park, Llundain y Sul cynt.
Daeth Henry Richard i amlygrwydd drwy achub cam y Cymry adeg Terfysgoedd Beca ddechrau'r 1840au, ac eto yn sgil 'Brad y Llyfrau Gleision' ym 1847. Fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch, teithiodd Ewrop droeon yn trefnu cyfarfodydd i geisio cael llywodraethau i ymwrthod â rhyfel fel modd i ddatrys problemau gwleidyddol. Drwy waith Henry Richard a'i gyfeillion fe osodwyd y sylfeini i sefydliadau fel Llys Rhyngwladol yr Haag, ac i'r datblygiadau a ddaeth yn Genhedloedd Unedig. Galwyd ef yn 'Apostol Heddwch'.
Ym 1868 enillodd sedd Merthyr Tudful ac Aberdâr yn y Senedd; ac yn fuan cafodd ei adnabod fel yr 'Aelod dros Gymru' am ymladd achosion Cymreig. "Yr oedd ei gyfraniad yn aruthrol o fawr, yn llais blaenllaw i Anghydffurfiaeth Gymreig, y grym radical a osododd y sylfeini i'r radicaliaeth y mae Cymru'n draddodiadol yn ei arddel. Hyrwyddai Ffordd Tangnefedd a Ffordd Cyfiawnder oherwydd ei argyhoeddiad mai dyna oedd Ffordd Iesu," meddai'r Parchg Guto Prys ap Gwynfor, Llywydd Cymdeithas y Cymod.
Mwy am ei fywyd ar tud 2:

