
Neges ar gyfer y Pasg
06/04/2012"Fel Cristnogion, credwn bod y rhyddid i fynegi barn crefyddol neu wleidyddol yn hawl creiddiol mewn cymdeithas wareiddiedig," meddai'r Parchg Ron Williams, is-Lywydd Undeb yr Annibynwyr.
"Fel Anghydffurfwyr, rydym yn gwrthwynebu unrhyw ymyrraeth gan lywodraeth gwlad yn yr hawl yma. Byddai caniatáu i’r llywodraeth ac asiantaethau eraill i ysbio ar negeseuon e-bost pawb yn ymyrraeth a datblygiad peryglus.
"Cafodd Iesu Grist ei hun ei ddienyddio oherwydd yr hyn a ddywedodd ac a bregethodd. Ond profodd rhyddid Duw yn drech na chosb eithaf llywodraeth, yn drech nac angau ei hun. Y Pasg hwn, gadewch i ni werthfawrogi ein rhyddid fel Cristnogion a dinasyddion, a gwneud popeth o fewn ein gallu i’w warchod."

