
Gofal Cymraeg - Angen Ymateb
15/04/2012Llanw’r Ffurflen Ymgynghori, gan Adran Teulu'r Undeb
CWESTIYNAU 1 – 6: Awgrymwn eich bod yn rhoi ‘tic’ neu’r gair ‘cytuno’ yn y blwch ac yna’n ateb yn debyg i hyn:
CWESTIWN 1: Credwn fod hawl sylfaenol gan bobl sy’n hen, yn fregus neu’r sâl i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysbyty neu gartref preswyl. Mae pobl yn teimlo’n llawer mwy cysurus o gael gofal yn eu hiaith eu hunain. Yn anffodus, prin yw’r ystyriaeth a roddir i hyn yn gyffredinol. Mae’r ddarpariaeth naill a’i ddim yn bod o gwbl, neu’n fympwyol ac ysbeidiol. Mae angen i awdurdodau iechyd, gofalwyr a rheolwyr cartrefi preswyl ddeall bod iaith yn rhan hanfodol o fywyd person. (Rhowch enghraifft fer o’ch profiad chi os dymunwch)
CWESTIWN 2: Yn ogystal â bod yn fater o hawl sylfaenol, rydym yn cytuno gyda’r gosodiad "bod iaith yn fater o angen i lawer - er enghraifft mae pobl gyda dementia a phobl sydd wedi dioddef strôc yn colli eu hail-iaith yn aml, ac mae’n bwysig cofio fod rhai plant o dan 5 oed yn uniaith Gymraeg hefyd." Gall methu darparu gwasanaeth ar gyfer y fath bobl yn Gymraeg fod yn fethiant clinigol neu feddygol. (Rhowch enghraifft fer o’ch profiad chi os dymunwch)
CWESTIWN 3: Mae’n annheg iawn disgwyl i gleifion neu bobl hŷn orfod gofyn am wasanaeth, ac yn eu rhoi mewn sefyllfa o anfantais. Yn bendant dylai’r cyfrifoldeb fod ar y darparwr gwasanaeth i ofyn am eu dewis iaith.
CWESTIWN 4: Os yw’r strategaeth hon yn mynd i fod yn ‘Fwy na Geiriau" rhaid darparu ar gyfer siaradwyr Cymraeg ar y ‘rheng flaen.’ Gallai hynny olygu rhoi ystyriaeth i allu person i siarad Cymraeg wrth benodi staff, ac wrth lunio rota neu batrwm shifft.
CWESTIWN 5: Fel meddai’r ddogfen "mae iaith a chyfathrebu yn elfen hanfodol o’r therapi, ac felly mae’n hanfodol fod defnyddwyr yn derbyn gofal drwy gyfrwng yr iaith y maent hwy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus a hyderus i drafod eu materion personol ac emosiynol ynddi."
CWESTIWN 6: Gallai’r mesurau hyn wneud byd o wahaniaeth i fywydau bobl mewn ysbyty neu mewn gofal. Mae’n amhosib mesur y budd i siaradwr Cymraeg o gael gofal yn ei (h)iaith ei hun. Mae’r strategaeth yn cwrdd ag angen aruthrol, ac i’w gymeradwyo’n fawr iawn.

