
Gofal Cymraeg - Angen Ymateb
15/04/2012
Mae Llywodraeth Cymru eisiau cryfhau’r gwasanaeth sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg mewn iechyd, cartrefi gofal a gwasanaethau cymdeithasol, er lles cleifion a’u teuluoedd.
Maent yn argymell rhoi’r cyfrifoldeb ar ddarparwyr gwasanaethau iechyd a chymdeithasol i ofyn os yw siaradwyr Cymraeg am ddefnyddio’r iaith; er enghraifft, yn ystod geiriau o gysur ac wrth drafod opsiynau gofal a thriniaeth. Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi strategaeth Mwy na geiriau, ac yn gofyn am ymateb pobl.
Bu Undeb yr Annibynwyr yn ymgyrchu’n ddyfal dros hawliau siaradwyr Cymraeg mewn gofal ers dros tair blynedd. Felly, mae’n bwysig dros ben ein bod ni, fel unigolion, eglwysi a Chyfundebau, yn ymateb i’r ymgynghoriad. Ewch i "Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad" ar waelod tudalen y ddolen hon:
wales.gov.uk/consultations/healthsocialcare/words/?skip=1&lang=cy
Mae amser yn brin! Rhaid ymateb cyn Ebrill 30. Os nad ydych wedi ymateb yn barod, ewch ati’n syth, os gwelwch yn dda.
Tudalen nesa: Help I Lanw’r Ffurflen Ymgynghori

