
Dathlu Llwyddiant Ymgyrch Radio
20/04/2012
Mae Annibynwyr wedi rhoi croeso brwd i'r newyddion bod gorsaf radio cymunedol newydd i’w sefydlu yn y gorllewin i wasanaethu siaradwyr Cymraeg.
"Mae hyn yn newyddion rhagorol a chyffrous dros ben," meddai’r Parchg Beti-Wyn James, ysgrifennydd Cyfundeb Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin. Yn sgil erydu safle’r Gymraeg ar radio lleol, bu’r Cyfundeb yn lobio OFCOM i ganiatáu trwydded darlledu i fenter Radio Beca.
"Hyderwn y bydd y gwasanaeth newydd yn adlewyrchu ac yn hybu pob agwedd o fywyd a diwylliant gorllewin Cymru," meddai Mrs James, "gan gynnwys, wrth gwrs, y bywyd a’r gweithgarwch Cristnogol sy’n dal i fod mor bwysig i’n pobl."
R’oedd Annibynwyr Gorllewin Caerfyrddin wedi pleidleisio dros gefnogi menter Radio Beca yn eu ‘Sul Sbesial’ yng Nghaerfyrddin fis Gorffennaf diwethaf (uchod), ac yna yn eu Cwrdd Chwarter yn Nebo, Llanpumsaint.
"Dyma enghraifft wych o sut y gall Cristnogion fynd i’r afael â mater sydd o gonsýrn mawr i bobl yn eu bywyd bod dydd, trwy fynnu bod cyfiawnder cymdeithas yn cael ei weithredu," meddai’r Parchg Beti-Wyn James.

