
Y Gras ar Ras
09/05/2012Bu ymdrech yr ieuenctid yn arworol, gyda nifer heb redeg ers blynyddoedd, ac eraill yn rhedeg am y tro cyntaf erioed - neu dyna'r honiad!
Tra roedd yr ieuenctid yn rhedeg cynhaliwyd oedfa gymun gyfoethog yng nghapel Pant-teg gyda'r Parchedigion Emyr Lyn Evans, Ken Williams a Wilbur Lloyd Roberts yn cymryd rhan. Yn dilyn yr oedfa paratowyd tê ar gyfer y gynulleidfa yn y festri, cyn i griw Capel Seion droi am adref yn barod i groesawu'r rhedwyr ar ddiwedd eu taith. Pan ddaeth rhedwyr y cymal olaf, Rhodri a Dafydd, i'r golwg ar ben tyle serth Banc y Twr fe ymunodd gweddill rhedwyr y diwrnod i gwblhau'r daith gyda'i gilydd yn orfoleddus.
Lowri Thomas yn cyflwyno'r Beibl i’r Parchg Wilbur Lloyd Roberts ar ddiwedd y daith unarddeg milltir o Bant-teg i Gapel Seion, Drefach.
Cafwyd geiriau pwrpasol gan y Parch Wilbur Lloyd Roberts wrth iddo dderbyn y Beibl ac yn dilyn emyn a gweddi roedd yr ieuenctid yn falch o gael lluniaeth yn y festri.
Diolch i bawb fu'n helpu fel stiwardiaid ond yn bennaf oll i'r ieuenctid am eu brwdfrydedd heintus a'i bodlonrwydd i gario'r efengyl o Bant-teg i Gapel Seion. Bydd y diwrnod bendigedig hwn yn aros yn y cof am flynyddoedd lawer.
"Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd â'r nod yn sicr o'i flaen."
(Diolch yn fawr iawn i Gwyn Elfyn am yr adroddiad hwn)

