
Y Gras ar Ras
09/05/2012Pant-teg yw un o'r eglwysi Annibynnol hynaf yn Sir Gaerfyrddin. Oddi yno aeth yr Anghydffurfwyr cynnar â’r efengyl i sawl rhan o'r sir. Fe gyflwynodd gweinidog presennol Pant-Teg, y Parch Emyr Lyn Evans, Feibl i Lowri Thomas, oedd yn cynrychioli'r ieuenctid, i'w gario fel baton yn ystod y ras o Bant-teg i Gapel Seion, Drefach.
Yna, ymadawodd yr ieuenctid â’r capel, oedd yn orlawn gyda bron i ddau gant yn bresennol, rhwng y rhedwyr a'r gynulleidfa fawr oedd wedi dod ynghyd yno ar bnawn Sul, Mai 6. Cariwyd y Beibl am y cymal cyntaf - y rhiw serth a hir allan o Bant-teg - gan Gareth.

